BREUDDWYD WEDI DOD YN WIR

Ym 1956 roeddwn i’n gweithio yn Sir Amwithyg ac mi es i i Gymru am bum diwrnod, oherwydd roedd arna i eisiau gweld mynyddoedd y tro gyntaf yn fy mwyd. Cymerais i’r trên o Amwithyg i Borthmadog. Roed enw’r trên Cambrial Coast Express a chymerodd o bum awr i fynd i Borthmdog, ond roedd pob munud yn hyfryd. O Borthmadog cerddais i i Gapel Curig a syrthiais i mewn cariad gyda Cymru yr eilad pan welais i Moel Siabod.

Byth ers hynny roeddwn i’n dod i Gymry bob tro pan ges i tri diwrnod ynghyd - un diwrnod i urru yna, un i aros ac un i urru adre.

Ym 1985 o’r diwedd aeth hi’n bosibl i mi symud i Gymru a sgrifennais i i bob gwerthwr tai yng ngogledd Cymru i gael t] efo tipyn bach o dir. Roeddwn i eisiau hefyd nant, achos roeddwn in breuddwydio cadw hwyaid, ac mae hynny’n waith galed heb d[r. Anwybyddodd rhan mwyaf y gwerthwyr tai [*am] fy nghais i am gael nant, efallai am nad oedd gen i lawer o arian i’w wario. Roedd ambell werthwyr tai yn anfon hysbysebion am dai efo gerddi ac afonydd frithyll[od] am dair waith y pres a oedd gen i. Taflais i’r rhain yn y fasged ysbwriel ar unwaith a pheidiais â disgwyl cael nant.

O’r diwedd ddes i efo ffrind am pedwar diwrnod edrych ar bob t] oedd gen i. Drwy’r dydd Gwener a dydd Sadwrn theithion ni a edrych ar dai. Yr unig dau d] a hoffais i roedd yn sefyll ar ben mynydd heb ffordd ynteu llwybr iawn hyd yn oed a na fedrwn i fyw yno ar fy mhen fy hun pan fydda i’n heneiddio. Gyda’r nos dydd Sadwrn roedden ni yn Croesor am wyth o’r gloch heb wybod ble oedden ni a bron heb betrol. Fel roedd bob garej wedi cau dywedais i bod rhaid i ni aros am y nos, a dywedodd fy ffrind,

‘Dos yn ôl i’r ffordd fawr a throi i’r chwith a byddi di ar y ffordd i Ddolgellau. Mi fedrwn ni gael ystafell am y nos yno.’

Oedd hi’n iawn, a fel roeddwn i’n gyrru heibio’r atomfa gofynnodd hi beth oedd o. Roeddwn i wedi gweld yr atomfa dros y llun ond mae o’n edrych yn wahanol o’r ffordd, yn waeth. Roeddwn i yn pendroni dros y peth ac yn gyrru’n araf iawn. Gan hynny gwelais i’r arwydd i Drawsfynydd.

‘A,’ ebychais i, ‘R[an wna i ble rydyn ni. Mae gan y pentre ‘ma garej a thafern neis sy’n gwneud gwely a brecwast a s[per hefyd. Awn i yna a mi fydd ein problemau i gyd yn cwpla.’

Aethon ni i mewn i’r dafarn ac archebu swper. Tra oedden nhw’n paratoi’r bwyd eisteddom ni wrth y bar er mwyn edrych ar y papurau a phenderfynu i ble i fynd y trannoeth. Roedd yn clir beth oedden ni’n gwneud a gofynnodd rhywun i mi os roeddwn i wedi feindio t] eto. Wedyn gofynnodd o pa fath o d] oeddwn i eisiau. Roedd sgwrs dim ffurfiol a disgrifiais i fy mreuddwyd.

‘Mi hoffwn i d] ar ei ben ei hun ond dim pell o bawb, adeiladwyd ---* cerrig, hen, dim pwysig maint ynteu cyflwr (os fedra i ei fforddio), dim pwysig gardd ond hoffwn i tipyn bach o dir, unrhyw tamaid o dir garw fydd yn iawn, lle fedra i weld y mynyddoedd, dim pell o afon ac, os ydy hi’n bosib, hefo nant.’ Breuddwyd amhosib.

‘Mae gen i ffrind sy’n gwerthu t] fel hwnna,’ dywedodd y ferch ar ôl y bar. ‘Wna i ffonio fo.’ A felly ces i brynu Bodyfuddau. Mae’n golygu pob peth i mi. Rydw i’n byw yma r[an tri ar deg mlynedd ac mae gen i cymdogion caredig, dau gi defaid ac hwyaid hyfryd iawn. Ym Mharadwys rydw i’n byw.

 

To the English version  

 

 

back to Daf's homepage

 

  Back to main Welsh page

 

 

 For Welsh tuition -- individual residential or postal