|
HEN WLAD FY NHADAU
(1) Mae Hen Wlad fy Nhadau yn annwyl i mi Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad Dros ryddid collasant eu gwaed ····· CYTGAN Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad Tra'r môr yn fur I'r bur hoff bau O bydded i'r hen iaith barhau ····· (2) Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sy'n hardd Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd i mi ····· CYTGAN (Gwlad! Gwlad! etc) ····· (3) Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed Mae heniaith y Cymry mor fÿw ag erioed Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad Na thelyn berseiniol fy ngwlad
|
|
1. The land of my fathers is dear to me Land of minstrels, famously renouned; Her brave warriors, extremely illustrious, For freedom they splilled their blood. Chorus: - Wales! Wales! faithful am I to my country, And long as the sea is a bulwark to the pure beloved bay, Oh may the old language endure. 2. Old Cymru mountainous, the bard’s paradise, Every valley, every precipice, which are beautiful to the sight; Through patriotic feeling, so enthralling is the murmur Of her streams, rivers to me. 3. Though the enemy has ravaged my realm under his feet, The old speech of Cymru is as great as ever, The breeze is not exhausted by the terrible hand of treason, Nor the melodiious harp of my land. |
|
····· DAFYDD Y GARREG WEN -Cân werin
"Cariwch," medd Dafydd, "fy nhelyn i mi, Ceisiaf cyn marw roi tôn arni hi. Codwch fy nwylaw i gyrraedd y tant; Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!"
"Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn: 'Dafydd, tyrd adref, a chwarae trwy'r glyn!' Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant! Duw a'ch bendithio fy ngweddw a'm plant!"
|
DAVID OF WHITE ROCK Dafydd said, 'Bring me my harp, I'll try to put a tune on it before I die. Raise my hand to reach the string. God bless you my widow and my children. Last night I heard the voice of an angel saying: 'Dafydd, come home and play through the glen!' Harp of my childhood, farewell to your music, God bless you my widow and my children. |
|
AR HYD Y NOS Holl amrantau'r sêr ddywedant Ar hyd y nos Dyma'r ffordd i fro gogoniant Ar hyd y nos Golau arall yw tywyllwch I arddangos gwir brydferthwch Teulu'r nefoedd mewn tawelwch Ar hyd y nos
O mor siriol gwena seren Ar hyd y nos I oleuo'i chwaer ddaearen Ar hyd y nos Nos yw henaint pan ddaw cystudd Ond i harddu d]n a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos
|
ALL THROUGH THE NIGHT All the twinkling stars say, all through the night, 'There's the road to the place of glory, all through the night. Other lights are dark to show the truth of the loveliness the heavenly family in peace all through the night.
O so cheerily smiles the star all through the night, to light her sister earth all through the night, age is the night when comes tribulation, but to beautify man and his surroundings we give our feeble light to each other all through the night,
|
|
CWM RHONDDA
Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd Wrthrych teilwng o'm holl fryd Er o ran yr wy'n ei 'nabod Ef uwchlaw gwrthrychau'r byd Henffych fore! Caf ei weled fel y mae. |
Rhosyn Saron yw ei enw Gwyn a gwridog, teg o bryd Ar ddeng mil y mae'n rhagori O wrthrychau penna'r byd Ffrind pechadur Dyma'r Llywydd ar y môr
Beth sydd imi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr? Tystio'r wyf nad yw eu cwmni I'w gystadlu â'm Iesu mawr O! am aros Yn ei gariad ddyddiau f'oes. |
|
CALON LÂN (1) Nid wyf yn gofyn bwyd moethus Aur y byd na'i berlau mân Gofyn wyf am galon hapus Calon onest, calon lân CYTGAN Calon lân yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Does ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos
(2) Pe dymunwn olud bydol Edyn buan ganddo sydd Golud calon lân rhinweddol Yn dwyn bythol elw fydd
CYTGAN
(3) Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i'r nef ar edyn cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad Roddi imi galon lân
CYTGAN |
|
|
BUGEILIO'R GWENITH GWYN (1) Mi sydd fachgen ieuanc ffôl Yn byw ar ôl fy ffansi Myfi'n bugeilio'r gwenith gwÿn Ac arall yn ei fedi Pam na ddeui ar fy ôl Rÿw ddydd ar ôl ei gilydd? Gwaith rw i'n dy weld y feinir fach Yn lanach lanach beunydd
(2) Glanach lanach wÿt bob dydd Neu fi sy â'm ffydd yn ffolach Er mwyn y gwr a wnaeth dy wedd Gwna im drugaredd bellach Cwn dy ben, gwêl acw draw Rho imi'th law wen dirion Gwaith yn dy fynwes bert ei thro Mae allwedd clo fy nghalon
|
(3) Tra bo dwr y môr yn hallt A thra bo 'ngwallt yn tyfu A thra bo calon yn fy mron Mi fydda'n ffyddlon iti Dywed imi'r gwir heb gêl A rho dan sêl d'atebion P'un ai myfi neu arall, Gwen, Sydd orau gen dy galon. |
|
AR LAN Y MÔR (1) Ar lan y môr mae rhosys cochion Ar lan y môr mae lilis gwynion Ar lan y môr mae 'nghariad inne Yn cysgu'r nos a chodi'r bore
(2) Ar lan y môr mae cerrig gleision Ar lan y môr mae blodau'r meibion Ar lan y môr mae pob rhinwedde Ar lan y môr mae'n nghariad inne |
(3) Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie Mor hardd yw natur ym Mehefin Ond harddwch fÿth yw wyneb Elin |
|
|
|
|
|
|
|
|
For intensive Welsh language course |
|
|